| Enw'r Prosiect | Ysgol Gyfun Y Pant |
| Lleoliad y Prosiect | Ysgol Gyfun Y Pant, Heol y Bont-faen, Pont-y-clun CF72 8YQ |
| Dyddiad Cychwyn y Prosiect | 27/07/2015 |
| Dyddiad Cwblhau Ymarferol | 02/12/2016 |
| Gwerth y Contract | £20,685,000 |
| Syrfëwr Meintiau / Ymgynghorydd Costau | Rhomco |
| Peiriannydd Strwythurol | Opus International |
| Peiriannydd Electronig/ Mecanyddol | McCann & Partners |
| Prif Ddylunydd | Morgan Sindall |
| Contractwr | Morgan Sindall |
| Rheoli Adeiladu | Rheoli Adeiladu RhCT |
| Pensaer | Boyes Rees |
Darparu Ysgol Gyfun ar gyfer 1400 o ddisgyblion trwy gynnal gwaith adeiladu helaeth yn ysgol bresennol Ysgol Gyfun Y Pant.
Yn cynnwys adeiladu bloc addysgu newydd, dymchwel / adnewyddu blociau addysgu presennol, ailfodelu mannau chwarae allanol, gwella mynediad i gerddwyr a cherbydau i'r ysgol a thrwyddi.
BREAAM Ardderchog.
Ym mis Ionawr 2017, symudodd disgyblion i gyfleusterau arbennig newydd Ysgol Y Pant yn dilyn gwaith ailddatblygu. Gyda chymorth gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, roedd modd i'r Cyngor fuddsoddi £24.1miliwn er mwyn gwella'r amgylchedd dysgu a'r cyfleusterau sydd ar gael i ddisgyblion, staff, a chymuned Ysgol Gyfun y Pant.
Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys mannau addysgu gwyddoniaeth, celf, technoleg bwyd a dylunio a thechnoleg newydd; ystafelloedd dosbarth TGCh arbennig, darlithfa, ffreutur fodern, llyfrgell newydd, prif neuadd wych, cyfleusterau arbennig ar gyfer y chweched dosbarth, cae chwarae 3G sydd wedi'i lifoleuo ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA).
Yn allanol, cafodd yr hen lety a'r ystafelloedd dosbarth symudol eu dymchwel, a chafodd mwy o fannau chwarae awyr agored eu creu yn ystod 2018/19, gan gynnwys dau gae glaswellt ar gyfer pêl-droed a rygbi.
https://www.youtube.com/watch?v=s5ANLocjly8