Enw'r Prosiect | Ysgol Gymuned Tonyrefail |
Lleoliad y Prosiect | Ysgol Gymuned Tonyrefail, Heol Gilfach, Porth CF39 8HG |
Dyddiad Cychwyn y Prosiect | 31/10/2016 |
Dyddiad Cwblhau'r Gwaith Ymarferol | 21/10/20 |
Gwerth y contract | £44,017,000 |
Syrfëwr Meintiau / Ymgynghorydd Costau | Chander KBS |
Peiriannydd Strwythurol | Opus International |
Peiriannydd Trydanol/ Mecanyddol | McCann's |
Prif Ddylunydd | Morgan Sindall |
Contractwr | Morgan Sindall |
Rheoli Adeiladu | Rheoli Adeiladu RhCT |
Pensaer | Boyes Rees |
Agorodd Ysgol Gymuned Tonyrefail (ysgol 3-19 oed) ym mis Medi 2018 - gan groesawu disgyblion o Ysgol Gynradd Tonyrefail ac Ysgol Uwchradd Tonyrefail. Mae'r adeilad Fictoraidd rhestredig wedi'i ailfodelu'n sylweddol, ac mae dau adeilad Ysgolion yr 21ain Ganrif newydd sbon wedi'u hadeiladu - un yr un ar gyfer yr ysgol gynradd ac uwchradd.
Cafodd holl adeiladau'r ysgolion eu cwblhau erbyn Gwanwyn 2019, ac mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwaith dymchwel adeiladau'r hen ysgol uwchradd, a sefydlu maes parcio a'r caeau chwarae.
Mae'r ysgol newydd wych yn rhan o fuddsoddiad lleol ehangach gwerth £44 miliwn ym maes Hamdden ac Addysg. Mae’r buddsoddiad wedi darparu cae chwaraeon 3G 'pob tywydd' newydd yng Nghanolfan Hamdden Tonyrefail y mae modd i’r ysgol a'r gymuned ei ddefnyddio, ynghyd â chyfleusterau addysgu arbenigol ar gyfer gwersi Addysg Gorfforol i'w cynnal yn y Ganolfan.
https://www.youtube.com/watch?v=kdP79EAynLs