Enw'r Prosiect | Canolfan Hamdden Sobell ac Ysgol Gymunedol Aberdâr |
Lleoliad y Prosiect | Ysgol Gymunedol Aberdâr, Heol yr Ynys, Aberdâr, CF44 7RP |
Dyddiad Cychwyn y Prosiect | Contract Adeiladu 18.11.2013 |
Dyddiad Cwblhau'r Gwaith Ymarferol | Dyddiad cwblhau pob rhan o'r prosiect 30/08/18 |
Gwerth y Contract | £50M* ac eithrio adferiad asbestos |
Syrfëwr Meintiau / Ymgynghorydd Costau | Chandler KBS / Davis Langdon |
Peiriannydd Strwythurol | Atkins |
Peiriannydd Trydanol/ Mecanyddol | Crown House |
Prif Ddylunydd | Capita |
Contractwr | Laing O'Rourke |
Rheoli Adeiladu | Rheoli Adeiladu RhCT |
Pensaer | Atkins |
Agorodd Ysgol Gymunedol Aberdâr yn 2014 o ganlyniad i uno Ysgol y Bechgyn Aberdâr, Ysgol Aberdâr y Merched ac Ysgol Gyfun Blaengwawr. Yn ogystal â hynny, mae'r safle hefyd yn cynnwys canolfan hamdden ochr sych newydd, cyfleuster athletau achrededig IAAF a seilwaith gwell.
Derbyniodd yr ysgol fuddsoddiad gwerth £15miliwn yn rhan o raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Mae'r campws yn cynnwys adeilad trillawr.
Mae wedi'i dylunio gydag 'ardaloedd ar wahân' ar gyfer dysgu, sydd ar wahân i'r dosbarthiadau ac sydd â choridorau sydd wedi'u dylunio'n ofalus.
Mae gan y cyfleuster Wi-Fi, ac mae'n manteisio i'r eithaf ar dechnoleg fodern gydag ystafelloedd sydd ag iPads, sy'n golygu bod modd defnyddio llechi (tablets) mewn caffis rhyngrwyd.
Hefyd, mae gan yr ysgol stiwdio recordio, ardal agored gyda thaflunydd enfawr, campfa ac ardal ddawns.