Enw'r Prosiect | Ysgol Gynradd Cwmaman |
Lleoliad y Prosiect | Ysgol Babanod Cwmaman, Ffordd Fforchaman, Aberdâr CF44 6NS |
Dyddiad Cychwyn y Prosiect | 13/03/2017 |
Dyddiad Cwblhau Ymarferol | 18/07/2018 |
Gwerth y Contract | £7,800,000 |
Syrfëwr Meintiau / Ymgynghorydd Costau | Syrfëwr Meintiau RhCT |
Peiriannydd Strwythurol | Bradley Associates |
Peiriannydd Electronig/ Mecanyddol | Williams Sale Partnership (WSP) |
Prif Ddylunydd | Morgan Sindall |
Contractwr | Morgan Sindall |
Rheoli Adeiladu | Rheoli Adeiladu RhCT |
Pensaer | Boyes Rees |
Agorodd yr ysgol gynradd newydd i blant 3-11 oed yng Nghwmaman ym mis Medi 2018, gan groesawu disgyblion o hen Ysgol Babanod Cwmaman ac Ysgol Iau Glynhafod.
Mae safle'r ysgol newydd ar Heol Glanaman yn cynnwys ysgol newydd sbon, maes parcio i staff, ardal gollwng/casglu ar gyfer rhieni a disgyblion, dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, caeau chwarae ac ystafell i’r gymuned.
Yn ogystal â hyn, cafodd gwaith symud ac ailfodelu'r ardal chwarae ei gwblhau yn rhan o'r prosiect. Mae'r ardal yn cael ei defnyddio'n aml gan y gymuned leol.
https://www.youtube.com/watch?v=YcobHDOd00o