Mae'r Cyngor yn awyddus i benodi prif gontractwr i ddechrau ar y gwaith ym Mhentre Awel, sef datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd yn Llanelli.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mynd allan i dendr i benodi contractwr ar gyfer parth un y prosiect nodedig a fydd yn dwyn ynghyd arloesedd ym maes gwyddor bywyd, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern i gyd mewn un lleoliad ar hyd arfordir Llanelli.
Y cynllun hwn yw'r cyfle tendro â'r gwerth mwyaf y mae'r cyngor erioed wedi'i gyhoeddi ac mae'n dangos ei ymrwymiad i'r prosiect.
Yn brosiect cyfalaf mawr, bydd y contractwr yn cael ei benodi drwy gyfrwng Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru.
Rhoddwyd pwyslais sylweddol ar fanteision cymunedol gan gynnwys recriwtio a hyfforddi, cefnogi'r gadwyn gyflenwi a mentrau cymunedol ac addysgol ehangach.
Nod Parth Un o'r cynllun uchelgeisiol - y rhagwelir y bydd wedi'i gwblhau'n llawn erbyn dechrau 2024 - yw dwyn ynghyd addysg, busnes, ymchwil, hamdden ac iechyd mewn un adeilad a fydd yn cysylltu gyda’i gilydd drwy gyfrwng 'stryd' ac yn arwain at atriwm canolog a fydd yn cynnwys derbynfa, caffi ac amwynderau cyhoeddus eraill.
Bydd y ganolfan hamdden newydd yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd o'r radd flaenaf, gan gynnwys pwll nofio 25 metr ag wyth lôn, campfa newydd o'r radd flaenaf, neuadd chwaraeon ag wyth cwrt ac ardal chwarae antur.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys mannau meithrin a chyflymu a fydd yn helpu busnesau ymchwil i ddatblygu technoleg gofal iechyd arloesol, a chanolfan darpariaeth glinigol ac ymchwil sy'n canolbwyntio ar dreialon clinigol ar lefel gymunedol, a darparu gofal amlddisgyblaethol yn nes at adref ar gyfer ystod eang o wasanaethau yn y gymuned.
Bydd canolfan sgiliau llesiant arfaethedig yn darparu hyfforddiant iechyd a gofal, gyda chyrsiau'n amrywio o lefel mynediad i ôl-raddedig, gan roi myfyrwyr mewn lleoliad clinigol a chanolbwyntio ar feysydd lle mae prinder sgiliau.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Dyma'r cam cyntaf mewn ymarfer caffael helaeth ar gyfer Pentre Awel ac rwyf wrth fy modd ein bod, ar ôl blynyddoedd o gynllunio, bellach mewn sefyllfa i gyflawni'r datblygiad cyffrous hwn a fydd yn dod â manteision enfawr i bobl Llanelli a Sir Gaerfyrddin.
“Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r achos busnes yn ddiweddar sy'n golygu y gallwn nawr ddechrau defnyddio cyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £40 miliwn i helpu i'w gyflawni. “Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'r cwmpas a'r maint hwn yng Nghymru, a bydd yn dod ag ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol gan roi hwb sylweddol i'r economi leol.
“Ni allai hyn fod wedi dod ar adeg well wrth i ni ddechrau ein hadferiad economaidd yn dilyn COVID-19.”
Ar safle 83 erw yn Llynnoedd Delta, mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau gan gynnwys Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd.
Mae'r cynlluniau ar gyfer Pentre Awel hefyd yn cynnwys llety byw â chymorth i fodloni ystod eang o anghenion gofal, gwesty, ac elfennau o dai ar y farchnad agored a thai cymdeithasol a fforddiadwy a fydd yn cael eu darparu ym mharth dau, tri a phedwar. Bydd mannau cyhoeddus wedi'u tirlunio yn yr awyr agored ar gyfer hamdden, ynghyd â llwybrau beicio a cherdded, yn elwa o olygfeydd ysblennydd ar draws Aber Llwchwr a Bae Caerfyrddin
« Yn ôl i newyddion