Pentre Awel 

13 - 09 - 2021

Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'i gwmpas a'i faint yng Nghymru a fydd yn cynnig darpariaeth o'r radd flaenaf ym maes ymchwil meddygol a gofal iechyd gan gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach.

Yn ogystal â gwella iechyd a llesiant, bydd y prosiect yn creu bron 2,000 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi/prentisiaethau, a disgwylir iddo roi hwb o £467 miliwn i'r economi leol dros y 15 mlynedd nesaf.

Ar safle 83 erw yn y Llynnoedd Delta, bydd y prosiect dan arweiniad y Cyngor yn cael ei ddatblygu fesul cam ar draws pedwar parth. Mae'n cynnwys:

Parth 1 - dyddiad cwblhau'n llawn amcangyfrifedig dechrau ​2024:

Canolfan hamdden

Bydd Pentre Awel yn darparu canolfan hamdden newydd o'r radd flaenaf, gwerth £27 miliwn, a fydd yn cynnwys:

Addysg, ymchwil a datblygu busnes

Bydd yr ymchwil a'r gwaith datblygu yn helpu i wella dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw'n dda. Bydd Pentre Awel yn gartref i dimau o wyddonwyr a busnesau newydd, busnesau sydd wedi'u hen sefydlu a phobl sy'n newydd i'r maes. Byddant i gyd yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a cholegau a'r bwrdd iechyd i wella bywyd.

Bydd canolfan ymchwil a darpariaeth glinigol yn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ehangu ei ddarpariaeth ymchwil a pheirianneg feddygol drwy ganolbwyntio ar dreialon clinigol ar lefel gymunedol, sy'n gysylltiedig â chyfleusterau ar y safle; ac yn darparu gofal amlddisgyblaethol yn nes at adref ar gyfer ystod eang o wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y gymuned.

Bydd canolfan sgiliau llesiant yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, gyda chyrsiau'n amrywio o lefel mynediad i ôl-raddedig, gan roi myfyrwyr mewn lleoliad clinigol a chanolbwyntio ar feysydd lle mae prinder sgiliau.

Parth 2

Datblygiad tai cymdeithasol a fforddiadwy

Bydd datblygiad cyffrous o 35 o dai cymdeithasol a fforddiadwy yn cael ei ddatblygu ym mharth 2 y prosiect. Bydd y tai hyn yng ngogledd-ddwyrain Pentre Awel.

Llety byw â chymorth

Bydd cyfleusterau byw â chymorth yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau tai ar gyfer preswylwyr o bob oed y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Nod y llety hwn yw cefnogi annibyniaeth drwy ddefnyddio'r technolegau byw â chymorth diweddaraf gan gwmnïau ymchwil a datblygu arbenigol ar y safle.

Bydd cyfleusterau gofal integredig ac adsefydlu corfforol yn galluogi'r gwaith o brofi a threialu technolegau gwyddor bywyd sydd â'r nod o wella byw'n annibynnol a byw â chymorth.

Parth 3

Pentref byw â chymorth

Bydd oddeutu 144 o fflatiau a thai byw â chymorth i'w gwerthu a'u rhentu yn cael eu creu i hyrwyddo byw'n annibynnol ymhlith preswylwyr.

Gofod ehangu busnes

Bydd hyd at 10,000m² o ofod ehangu busnes yn cael ei ddarparu ar gyfer sgilgynhyrchu.

Parth 4

Gwesty

Bydd gwesty ar hyd arfordir trawiadol yn darparu llety gyda hyd at 140 o ystafelloedd gwely yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau i hyrwyddo llesiant ymwelwyr. Cynhaliwyd Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yn gynharach eleni, gyda'r bwriad o gyflwyno cais cynllunio amlinellol.

Datblygiad tai

Bydd datblygiad tai marchnad agored 35 uned i'r de o'r datblygiad gyda golygfeydd trawiadol o'r arfordir.


Bydd y cyfan o fewn y dirwedd naturiol, o amgylch llyn dŵr croyw ac o fewn pellter cerdded i Barc Arfordirol y Mileniwm. Bydd Pentre Awel yn cynnwys mannau cyhoeddus awyr agored wedi'u tirlunio ar gyfer hamdden, gyda llwybrau cerdded a beicio a golygfeydd arfordirol trawiadol.

Cynllunio

Sicrhawyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y safle ym mis Awst 2019 (Cyfeirnod Cynllunio: S/36948). Cynhaliwyd amrywiaeth o arolygon ac asesiadau amgylcheddol i gefnogi'r cais cynllunio ac maent ar gael ar y porth cynllunio.

Dylunio, pensaernïaeth a chynaliadwyedd

Mae gwaith dylunio manwl wedi'i wneud ar Barth 1, a fydd yn dwyn ynghyd addysg, busnes, ymchwil, hamdden ac iechyd mewn un adeilad. Bydd y cyfleusterau hyn yn cael eu huno mewn cynllun 'stryd', a gysylltir gan atriwm canolog a fydd yn cynnwys derbynfa, caffi ac amwynderau cyhoeddus eraill. Y stryd fydd calon gymunedol y pentref a bydd ganddi lawer o fannau arddangos tuag at mannau bach a fydd yn galluogi pobl i fwynhau'r golygfeydd gwych o'r llyn ac i'r gorllewin tuag at aber Afon Llwchwr a Bae Caerfyrddin.

Mae'r dyluniadau'n arddangos uchelgais y Cyngor i greu datblygiad sy'n cael ei arwain gan y dirwedd, sy'n gysylltiedig â chymunedau ac amwynderau lleol ac sy'n gynaliadwy. Bydd cyfleusterau Parth 1 yn gwneud y defnydd gorau posibl o olau dydd ac awyru naturiol lle bo hynny'n bosibl, ac yn 'dod â'r tu allan i mewn' i hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol da. Yn ogystal, mae toeau gwyrdd/brown a phaneli ffotofoltäig yn rhan bwysig o strategaeth ynni ar draws y safle ac yn adlewyrchu dyheadau'r Cyngor mewn perthynas â charbon sero-net.

Dull partneriaeth

Mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgolion a Cholegau gan gynnwys Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd.

Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe (£40 miliwn).

« Yn ôl i newyddion