Daw'r rhaglen adnewyddu ar raddfa eang wrth i'r Cyngor ymestyn ei bartneriaeth gyda Parkwood a Legacy Leisure yn gynharach eleni.
Ochr yn ochr â'r ailwampio, mae'r ganolfan bellach yn gallu brolio ystafell ddosbarth sbin, stiwdio ffitrwydd fawr ac offer campfa newydd.
Mae gwaith tebyg i uwchraddio safleoedd Legacy Leisure yn Y Barri, Penarth a'r Bont-faen yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Dwedodd y Cynghorydd Gwyn John, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Llesiant: "Roeddwn wrth fy modd yn gweld y cyfleusterau newydd yng Nghanolfan Hamdden Llanilltud Fawr.
"Mae'r safle wedi ei drawsnewid i fod yn lleoliad modern lle gall y gymuned fwynhau cadw'n heini a rhoi cynnig ar ddosbarthiadau ffitrwydd newydd.
"Gobeithiaf weld llawer o aelodau presennol a newydd yn defnyddio'r cyfleuster newydd ac edrychaf ymlaen at ddatgelu gwaith uwchraddio tebyg ar draws y Fro yn 2023.
"Da iawn i bawb fu’n rhan o’r gwaith!"
« Yn ôl i newyddion