Cyngor Caerffili yn cymeradwyo cynllun buddsoddi mewn tai 

08 - 06 - 2023

Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gymeradwyo cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn ei wasanaeth tai eleni.
 
Mae ‘Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2023–24’, a gafodd ei gymeradwyo mewn cyfarfod diweddar o’r Cyngor llawn, yn nodi cynlluniau incwm a gwariant ar gyfer Cartrefi Caerffili, ei wasanaeth tai, dros y flwyddyn ariannol nesaf.
 
Yn ogystal â’i gynllun busnes, mae’r ddogfen hefyd yn darparu naratif manwl sy’n amlinellu cyflawniadau Cartrefi Caerffili dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys llwyddo i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru, dros £3.2 miliwn o arbedion wedi'u cynhyrchu i gwsmeriaid, gwaith gyda phartneriaid cymdeithasau tai i gael £14.92 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd a pharhau gyda’i fenter Allweddi Caerffili arloesol.
 
Mae’r cynllun hefyd yn manylu ar flaenoriaethau Cartrefi Caerffili ar gyfer y tair blynedd nesaf, megis adeiladu momentwm gyda’i raglen adeiladu tai, gweithredu Strategaeth Rheoli Asedau Cynlluniedig newydd, gyda ffocws ar Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 a datgarboneiddio ei stoc tai, a pharhau i gynorthwyo cwsmeriaid wrth reoli arian, cynyddu incwm a lleihau tlodi tanwydd.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, mae rôl Cartrefi Caerffili wrth gynorthwyo trigolion yn hanfodol.  Ein gweledigaeth yw darparu gwasanaeth rhagorol o ansawdd uchel i holl gwsmeriaid Cartrefi Caerffili; ac mae cael cynllun busnes cadarn yn allweddol i gyflawni hyn.”
 
Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai  « Yn ôl i newyddion