Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig y cyfle i bobl ddechrau gyrfa newydd ac ennill arian wrth iddyn nhw ddysgu.
Mae'r Cyngor yn cynnig prentisiaethau i amrywiaeth o rolau'r sector cyhoeddus. I gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2024 (5-11 Chwefror), mae'r Cyngor yn dathlu fod dros 20 o bobl wedi derbyn dechreuad newydd yn ystod y flwyddyn flaenorol gyda phrentisiaethau mewn gwasanaethau sy'n cynnwys gofal cymdeithasol, tai, priffyrdd TGCh ac addysg.
Un o'r rheiny yw Jade o Raeadr Gwy, sydd newydd gwblhau chwe mis cyntaf ei phrentisiaeth weinyddol yn y tîm hyfforddi gofal cymdeithasol.
Ymgeisiodd Jade am y rôl ar ôl gadael yr Ysgol wrth iddi ystyried ei hopsiynau ar gyfer y dyfodol. "Doeddwn i ddim yn siwr a fyddai'r brifysgol yn addas i mi, felly penderfynais gymryd f'amser. Pan welais yr hysbyseb am y swydd yma, roeddwn i'n meddwl ei bod yn ymddangos fel y math o swydd y byddai gen i ddiddordeb ynddi, a byddai'n rhoi cyfle i ennill cymwysterau," meddai Jade.
"Rwy wedi mwynhau'r swydd hyd yma. Mae dysgu yn y gwaith yn teimlo'n naturiol ac rwy'n mwynhau rhoi cynnig ar faes na fyddwn i wedi meddwl amdano cynt. Byddwn I'n bendant yn annog pobl eraill i ystyried Dilyn prentisiaeth," ychwanegodd.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys sydd â chyfrifoldeb dros AD a'r gweithlu: "Rydym wrth ein bodd o fod wedi gallu cynnig cyfleoedd i Jade a sawl un arall mewn amrywiaeth o wasanaethau cymorth.
"Mae prentisiaethau'n gallu cynnig llwybr gyrfa ffantastig i bobl o bob oed. Rydym wedi ymroi i dalu cyflog byw gwirioneddol i'n prentisiaid hefyd - cyfradd yn ôl yr awr sy'n seiliedig ar gostau byw ac yn cael ei gosod yn annibynnol.
Ychwanegodd: "Os oes diddordeb gennych mewn cyfle newydd, byddwn yn eich annog i wneud cais ar gyfer un o'n prentisiaethau yn y dyfodol sy'n cael eu hysbysebu ar ein gwefan: cy.powys.gov.uk/swyddi Yn ychwanegol, gallwch gofrestru ar restr bostio'r Gronfa Dalent er mwyn cysylltu â chi'n uniongyrchol os fydd swydd wag addas ar gael."
« Yn ôl i newyddion