Mae cwblhau Cam 1 datblygiad Old School Lane gan WB Griffiths yn garreg filltir bwysig i Gyngor Sir Penfro.
Y cartrefi newydd yw'r eiddo preswyl cyntaf a adeiladwyd gan yr Awdurdod Lleol mewn mwy na 25 mlynedd ac maen nhw’n foment bwysig yn Rhaglen Datblygu Tai PCC.
Wedi'i adeiladu ar dir hen Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston, mae datblygiad Old School Lane yn cynnwys 33 o gartrefi newydd sy'n cynnwys cymysgedd o eiddo un i bum ystafell wely.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Chyflenwi Tai, y Cynghorydd Jon Harvey: “Rwy'n falch iawn bod ein tai cyngor newydd cyntaf ers blynyddoedd lawer wedi cael eu cwblhau gyda thenantiaid i fod i’w hanheddu ar ôl y Nadolig.
“Hoffwn ddiolch i gontractwr y Cyngor WB Griffiths am gamu i mewn i gwblhau'r datblygiad wedi i’r contractwr blaenorol fynd i ddwylo gweinyddwyr a hefyd i'r gymuned leol am eu hymgysylltiad cadarnhaol drwyddi draw.
“Y datblygiad hwn yw'r cyntaf o nifer o safleoedd sydd gan y Cyngor yn ei raglen adeiladu tai dros y blynyddoedd nesaf.”
Gan gynnig ystod o ddyraniad cyffredinol, tai â chymorth ac eiddo wedi'u haddasu i'r anabl, mae'r cartrefi hyn yn darparu golwg newydd i dai cymdeithasol yn Sir Benfro.
Mae'r eiddo wedi'u hadeiladu i gwrdd â lefelau effeithlonrwydd ynni uchel i helpu i gadw costau rhedeg i lawr a'u dylunio ar gyfer mwy o hyblygrwydd hygyrchedd yn y dyfodol, gan greu 'cartref am oes'.
Mae hyn yn cynnwys ystafelloedd gwlyb ar y llawr gwaelod ym mhob eiddo ynghyd â drysau trothwy isel.
Yn allanol mae'r datblygiad yn cynnwys palmant bloc athraidd drwyddi draw, gan helpu i leihau'r straen ar y system ddraenio bresennol a gwella'r ffordd y gall dŵr wyneb gael ei ddraenio.
Dywedodd yr Aelod Lleol y Cynghorydd Aled Thomas ei fod wrth ei fodd yn gweld y cam cyntaf wedi’i gwblhau.
“Mae materion tai yn cael eu teimlo o ddifrif ar draws Johnston, a bydd y polisi gosod tai lleol a ddatblygwyd ar y cyd â Chyngor Cymuned Johnston yn gweld pobl leol yn gallu byw yn eu cymuned gartref unwaith eto.
“Rwy'n edrych ymlaen at weld cwblhau'r datblygiad hwn yn derfynol, yn ogystal â datblygiadau eraill sydd ar y gweill ar gyfer y pentref.”
Cafodd yr eiddo eu hysbysebu yn ddiweddar ar wefan Penfro Choice Homes, oedd yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â chais tai agored fynegi eu diddordeb. Oherwydd poblogrwydd y datblygiad hwn, cafwyd y nifer uchaf erioed o gynigion ar y cartrefi hyn.
Gan weithio gyda'r gymuned leol mae Polisi Gosod Lleol wedi’i roi ar waith, gan gynnig cyfle i ymgeiswyr a allai ddangos cysylltiad lleol â Johnston symud i'r eiddo newydd.
Bydd y 14 cartref cyntaf yn cael eu meddiannu ym mis Ionawr a bydd cam olaf datblygiad 33 eiddo yn cael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfle i'r gymuned leol ymweld â nhw.
Dywedodd Cyfarwyddwr Tai a Gofal Cymdeithasol Michael Gray: “Rwy'n falch iawn o weld Datblygiad Old School yn dod i ffrwyth.
“Mae ein Strategaeth Tai yn glir ynghylch cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, ac ar yr un pryd, cefnogi pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach yn eu cartrefi eu hunain.
“Bydd y datblygiad hwn yn cynyddu ein cyflenwad o eiddo byw cyffredinol, tai â chymorth ac eiddo wedi'u haddasu.”
Dilynwch dudalen Facebook Gwasanaethau Tai PCC am ddiweddariadau datblygiad pellach. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Cyswllt Cwsmeriaid drwy devCLO@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.
« Yn ôl i newyddion